X

Ymunwch â ni ar daith wefreiddiol drwy amser yn dathlu menywod drwg-enwog sydd wedi llunio'r byd rydyn ni'n byw ynddo - ambell arloeswraig, rebeles, cowmones a brenhines! Sioe syrcas gomedi a theatr ddawns sy’n cael eu cyflwyno i chi gan Kitsch & Sync Collective, sy'n dychwelyd i'r prif lwyfan gyda Chwmni Dawns Ieuenctid Trefynwy - Danceblast a pherfformwyr o Circomedia.

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn: 21:00

Dydd Sul: 19:00

Diolchiadau fil i Green Man Trust & Cyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.