X

Mentrwch i’r goedwig a chwiliwch am y bodau hologram sy’n hofran yno. Siaradwch â nhw, gwrandewch ar eu caneuon, ond … deithiwr annwyl gochelwch … mae rhyw ddewiniaeth ryfedd ar waith…

Mae tirwedd Cymru yn llawn mythau a chwedlau, straeon am fodau yn newid ffurfiau ac mae credoau ac ofergoelion wrth graidd ei diwylliant. Tan ddiwedd y Canol Oesoedd roedd dewiniaeth yn cael ei hymarfer heb erledigaeth. Mae athronwyr heddiw yn ysgrifennu am 'hud' technoleg, a’r posibilrwydd o hybridau dynol-technolegol yn rhodio’r ddaear. Beth sy'n digwydd pan fydd yr hen a’r newydd yn cwrdd? Pa hud fyddwn ni'n dibynnu arno yn y dyfodol, a phwy fydd yn ei hymarfer?

Mae 'Dewiniaeth' yn defnyddio technoleg fideo o’r radd flaenaf, deallusrwydd artiffisial, ac yn cydweithio â chantorion Cymru i greu dehongliad annaearol o ofergoeliaeth a phroffwydoliaethau Cymreig i'r dyfodol. Bydd y gwaith yn esblygu dros y penwythnos gyda'ch cyfranogiad chi. Chwiliwch am lecynnau yn y goedwig i gyfathrebu â'r bodau hyn.

Diolchiadau fil i Green Man Trust & Cyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.

meganbroadmeadow.com