Bica’r Cawr, Sion Cwilt y smyglwr, arglwyddes Llyn y Fan Fach, ac ysbryd Annwn; dyma rai yn unig o’r cymeriadau dirgel, mytholegol Cymreig sy'n aflonyddu ar gerddoriaeth Mari Mathias. Magwyd Mari, a gyrhaeddodd rownd derfynol Green Man Rising 2024, ger arfordir Gorllewin Cymru, ac mae hud y dirwedd honno a'i straeon hen yn treiddio drwy bopeth y mae'n ei wneud. Mae’n rhoi sain gyfoes i ganeuon gwerin traddodiadol a deunydd gwreiddiol, ac roedd ei halbwm Annwn yn 2022 yn cynnwys samplau o dapiau casét ei hen-daid, ac mae Awen, ei EP cydweithredol sydd ar y gweill yn cynnwys senglau a ryddhawyd yn ystod y calendr Celtaidd, ac yn dathlu newidiadau tymhorol y flwyddyn.
Diolchiadau fil i Green Man Trust & Cyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.