X

Dewch i ddathlu cylch y flwyddyn! Dewch i rannu yn y defodau a’r arferion gwerinol sy’n dwyn pobl ynghyd ar droad y tymhorau. Mae’r sioe Mari Ha! yn rhoi golwg newydd ar rhai o draddodiadau hynaf Cymru. Mae’r ddawns gyfoes egnïol hon yn cyd-blethu Calan Mai a Chalan Hen, hirddydd haf a’r gyhydnos, y Cadi Ha a’r Fari Lwyd, mewn perfformiad bywiog yn yr awyr agored.

Mae Mari Ha! yn waith cyffrous sy’n cyfuno dawns, dylunio a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n torri tir newydd. Mae’n dathlu’r pŵer sydd gan fyd natur i ddod â phobol ynghyd i greu cymuned a diwylliant.

Comisiwn ar y cyd gan Fenter Bro Morgannwg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Gwyl y Dyn Gwyrdd yw Mari Ha!, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

osianmeilir.com