Y Broses o Ddethol
Y Rhestr Hir
Gwrandewir ar bob un o’r ceisiadau er mwyn llunio rhestr hir: A Lesser Version, bathing suits, Big Long Sun, Delivery Service, Enabling Behaviour, Ewe & Friends, Flytrap, Formal Sppeedwear, IRKED, KickBoy, lots of hands, Low Harness, Maximilian, Melanie Baker, My Mercury, Nell King, Ninush, Potato, Sarah Meth, Shaking Hand, Shale, Swamp, Tenderness, Urvashi & wing! Felly dyma gyfle ichi ymgyfarwyddo â nhw yn ein rhestr chwarae yma. Bydd y rhestr hir wedyn yn cael ei rhannu â thîm o unigolion allweddol y diwydiant cerddoriaeth i greu ein rhestr fer o 5 act.
Y Ffeinal
Bydd ein ffeinal yn cael ei chynnal ar safle eiconig Clwb Ifor Bach ar 20 Mai, pan fydd yr arbenigwyr yn dewis un enillydd, a fydd yn agor Llwyfan y Mynydd. Archebwch docyn am ddim yma!
Yr Enillydd
Bydd yr enillydd teilwng yn agor y prif lwyfan yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2025! Bydd y rhai a fydd wedi cyrraedd yr ail safle yn hawlio slot ar Lwyfan Rising yn ogystal â sesiwn fyw wedi’i ffilmio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.